Rhestr Gwylio’r Byd 2020 Y 50 Uchaf - Open Doors UK & Ireland

Rhestr Gwylio’r Byd 2020 Y 50 Uchaf

Rhestr Gwylio’r Byd 2020 Y 50 Uchaf image
Free
Add

Mentro i Ddilyn Iesu Beth Bynnag Fo’r Gost

Rhestr Gwylio’r Byd: Y 50 Uchaf yw’r canllaw angenrheidiol i astudio’r eglwys sy’n cael ei herlid.

Mae rhifyn eleni, sy’n seiliedig ar ymchwil ddibynadwy gan Open Doors, yn fwy nag erioed—gyda chwe deg tudalen o wybodaeth ac ysbrydoliaeth i'ch helpu i weddïo, i gefnogi ac i siarad ar ran yr eglwys sy'n cael ei herlid.

Yn ogystal â gwybodaeth a phwyntiau gweddi ar gyfer bob un o'r 50 gwlad ar frig y rhestr, mae’n cynnwys nifer o elfennau eraill gan gynnwys erthyglau, straeon, ffotograffau a’r wybodaeth gefndirol angenrheidiol. Yn ogystal, mae’r rhifyn yn cynnwys map symudadwy ar ddwy ochr o’r llyfryn. Mae un ochr o’r map yn un ar gyfer y teulu cyfan.

Mae Rhestr Gwylio’r Byd: Y 50 Uchaf yn adnodd delfrydol ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwybod rhagor am y pwysau y mae Cristnogion yn wynebu am ddilyn Iesu a sut mae'ch cefnogaeth yn dod â gobaith iddyn nhw.

Yn cynnwys:

  • gwybodaeth fanwl a phwyntiau gweddi penodol ar gyfer pob un o'r 50 gwlad
  • straeon ysbrydoledig a thystiolaeth gan Gristnogion sy’n cael eu herlid
  • pedair erthygl fanwl sy'n dod â byd yr eglwys erlid yn fyw
  • map Rhestr Gwylio'r Byd rhyngweithiol ar gyfer plant ac oedolion
  • gwybodaeth am Gristnogion sy’n cael eu herlid trwy’r byd
  • cyflwyniad i Restr Gwylio'r Byd sy’n egluro pam ei fod yn adnodd pwysig
  • straeon ysbrydoledig am gredinwyr sy’n cael eu herlid
  • syniadau ynglŷn â beth y gallwn ddysgu gan yr eglwys sy’n cael ei herlid.

Os ydych chi'n dymuno archebu mwy nag 20, ffoniwch Inspire ar 01993 460015.

Get involved

Your support helps persecuted Christians continue to courageously follow Jesus.
Together, we can reach those where persecution hits hardest.